Bydd croeso cynnes i chi yma

Parc Iscoed

ENGLISH

Plasty gwledig preifat yw Parc Iscoed sy’n fan dathlu priodasau a digwyddiadau eraill,
mae ar ffiniau Gogledd Cymru a Siroedd Amwythig a Chaer.

Rydym yn cynnal priodasau, partïon, a digwyddiadau o bob math, boed fawr neu fach. Gallwn drefnu cyfarfodydd encilio i gwmnïau, nosweithiau swpera, sgyrsiau a sawl peth arall diddorol a gwahanol. Bydd popeth a gynhelir yma wedi’i ysbrydoli gan angerdd y perchnogion (bu’r teulu yma ers 1843) a’u tîm godidog. Yr athroniaeth sylfaenol yw mynd un cam ymhellach pob tro, gwrando ar y cwsmeriaid a chynnig syniadau, bod mor hyblyg, mor greadigol ac mor gyfeillgar ag sy’n bosibl. Ein nod ni yma yw sicrhau bod pob digwyddiad mor berffaith ag y gall fod ac yn rhagori ar bob disgwyliad.

Cewch ddathlu gyda ni ym Mharc Iscoed

Rhamantus, hamddenol a chartrefol, dyma’r fan perffaith i briodi a dathlu. Mae pob priodas yn unigryw. Nid oes gennym gynlluniau na fformiwlâu pendant; byddwn yn cydweithio i greu eich priodas berffaith chi.

Priodasau yn Iscoed

MR a MRS LYNCH

‘Allwn ni ddim diolch digon o chi am greu diwnod priodas mor berffaith a hudolus i ni - fe lwyddoch chi hefyd i drefnu bod yr haul yn tywynnu arnom ni!’


Achlysuron preifat a Phartïon

Gallwch logi Parc Iscoed ar gyfer eich ciniawau, partïon neu ddathliadau o bob math ac o bob maint. Bydd pob parti da yn ein plesio ni’n fawr yma yn Iscoed! Dyma’r man delfrydol i ddathlu - lle cartrefol a chynnes gyda dewis eang o ystafelloedd lle y gallwch gynnal y parti fydd wir wrth eich bodd.

Ffilmio a thynnu lluniau

Dyma fan perffaith i ffilmio – mae Iscoed yn blasty Sioraidd sydd ag ystafelloedd sy’n cynnwys agweddau traddodiadol a chyfoes. Mae’r gerddi o’i amgylch yn hyfryd, a gall yr adeiladau fferm traddodiadol a’r aceri o barcdiroedd eang greu cefndir trawiadol i’ch lluniau!

Charles Starmer-Smith, The Telegraph

‘Mae Parc Iscoed wedi’i weddnewid yn syfrdanol yn ddiweddar, gan ei drawsffurfio o fod yn blasty oedd yn mynd a’i ben iddo i leoliad dathlu delfrydol sy’n llwyddo i gyfuno agweddau traddodiadol a chyfoes.’


Archebwch nawr

Archebwch nawr

Sul 7 Mai

Iau 4 Mai

Te bach prynhawn
 â siampaen Sul 7 Mai Archebwch nawr
i ddathlu’r Coroni

Wild Arts yn cyflwyno Iau 4 Mai Archebwch nawr
noson o Opera

DOLEN

DYDDIAD

DIGWYDDIAD

O Nosweithiau Swpera i Ddyddiau Agored, o ddarlithoedd at flasu gwin,
dyma sydd ar raglen Parc Iscoed.

Digwyddiadur Iscoed

Cinio Sul

Sul 2 Gorffennaf

Archebwch nawr

Ewch â pheth o Iscoed adref gyda chi, o winoedd cartref at weithiau celf.

Siop Iscoed

O Nosweithiau Swpera i Ddyddiau Agored, gwelwch beth sydd ar y gweill
ym Mharc Iscoed.

Digwyddiadau

Tŷ i’r teulu yw Iscoed ac nid gwesty; ein barn ni yw y dylai pob ystafell
fod yn wahanol.

Ystafelloedd Iscoed

Gweini bwyd da a blasus yw ein prif ddiddordeb ac mae’n rhan anhepgor o brofiad pawb.

Bwyd Iscoed

Rhowch gynnig ar rai o’n hoff rysetiau gan ein Cogyddion dawnus.

O Gegin Iscoed

Dewch o hyd i’r manylion am ein cynlluniau diddorol yn Iscoed,
ac ymunwch â ni yn ein digwyddiadau arbennig.

Newyddion a Digwyddiadau

Darllenwch am ein cynlluniau diddorol yn Iscoed, ac ymunwch â ni yn ein digwyddiadau arbennig.

Priodasau

Darllenwch am y digwyddiadau diweddaraf ym Mharc Iscoed

Yr hyn sydd ar droed

Newyddion