YM MHARC ISCOED

Priodasau

Cartref teuluol yw Iscoed, nid man sych a ffurfiol ond lle hamddenol a chroesawgar - plasty Sioraidd ag agwedd gyfoes iddo. Rydym yn griw cyfeillgar a byddwn yn edrych ar eich ôl ym mhob ffordd bosibl. Mae yma griw talentog sydd â phrofiad eang o drefnu priodasau a chewch eich arwain ganddynt bob cam o’r ffordd, o’r ennyd y byddwch chi’n pennu’ch dyddiad hyd at yr amser y byddwn yn ffarwelio â chi fel pâr priod.

Mae pob priodas yn achlysur cwbl unigryw. Byddwn yn cydweithio â chi wrth i ni greu eich priodas ddelfrydol gyda’n gilydd. Mae gennym ddychymyg byw a syniadau hynod greadigol - byddwn am i’ch priodas fod yn un arbennig i chi a gobeithiwn y gwelwch mai Iscoed fydd y lleoliad delfrydol i wireddu hyn. Os byddwn wedi cyflawni’n gwaith fel y dylem, byddwch mor hapus a chyfforddus yma fel y byddwch yn ystyried bod Iscoed yn gartref i chithau hefyd.

Diolch am ystyried cynnal
eich priodas yma ym Mharc Iscoed

Wrth logi Iscoed am ddiwrnod, dim ond chi a’ch cyfeillion fydd â’r hawl i fod ym Mharc Iscoed a chrwydro’r gerddi o 12 o’r gloch y prynhawn tan 10 o’r gloch y bore canlynol.

Wrth logi Iscoed am ddeuddydd, bydd y plasty a’r gerddi ar gael i chi o 12 o’r gloch y diwrnod cyn eich priodas. Cewch, felly, ddigon o amser i ymlacio ac i drefnu pa weithgareddau a gemau bynnag fydd gennych ar gyfer eich gwesteion. Yna cewch fwynhau cinio arbennig gyda ni y noswaith cyn eich priodas.

Wrth logi Iscoed am dridiau, gellwch ymestyn cyfnod eich dathlu a chael cinio canol dydd yma y diwrnod ar ôl eich priodas.

Llogi Iscoed am Ddiwrnod, Deuddydd neu Dridiau

Un o’r pethau gorau am ddewis Iscoed yw bod yma dîm o drefnwyr hollol hyfryd! Mae llu ohonom ar gael i sicrhau y byddwch chi a’ch gwesteion yn gallu mwynhau y profiad gorau oll!

Bydd ein Trefnyddion Priodasau yn cydweithio â chi o’r funud y byddwch yn ymweld ag Iscoed am y tro cyntaf, hyd nes y byddwn yn ffarwelio â chi fel pâr priod. Gyda’n gilydd, byddwn yn trefnu’r briodas fwyaf perffaith i chi. Cewch eich arwain gan y tîm bob cam o’r ffordd. Hwy fydd eich cyswllt pan fydd angen a byddant yno i’ch cynghori ac estyn pa gymorth bynnag fydd ei eisiau arnoch. Pan fydd y trefniadau wedi’u cwblhau ac yn ymylu at berffeithrwydd, byddant wrth law hefyd ar eich diwrnod mawr i sicrhau bod popeth yn gweithio fel watsh! Eu cyfrifoldeb hwy fydd ysgwyddo pob gofid a phryder fel y gallwch chi ymlacio heb boen yn y byd.

Trefnydd eich Priodas a’r Tîm

ALEX MCCOMBS, 2018

‘Mae’n anodd i ni fynegi pa mor hollol wych yw’r lleoliad hwn.
Roedd ein diwrnod mawr yn un cwbl berffaith a does dim un bai ar y lleoliad na’r staff’

Ydych chi’n barod i ddechrau cynllunio
ar gyfer eich diwrnod mawr?
Rhannwch eich syniadau â ni
a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.

Beth am Ddechrau Cynllunio

Gall Iscoed gynnig
nifer o leoliadau bendigedig
ar gyfer lluniau gorwych o’ch priodas.

Eich Lluniau

Bydd ein staff ar gael i’ch croesawu chi
â dewis o ddiodydd
o’n bar gogoneddus.

Eich Diodydd Croeso

Seremoni sifil neu briodas eglwysig?
Ystyriwch y posibiliadau.

Eich Seremoni

Mae Bwthyn Iscoed ar gael
i’ch cyfeillion
y noson cyn eich priodas.

Y Noson Cynt

Eich Priodas ym Mharc Iscoed

Mae 15 ystafell ddwbl yma yn Iscoed
gan gynnwys ein hystafell briodasol,
Ystafell y Parc.

Eich Ystafelloedd


Rydym wrth ein bodd â pharti da
yma yn Iscoed!
Hwn yw’r man delfrydol i ddawnsio
a mwynhau gyda’ch cyfeillion
tan oriau mân y bore.

Eich Parti

Gweini bwyd da yw ein diddordeb angerddol
a chewch arlwy o’r radd flaenaf
waeth beth yw maint eich parti.

Eich Gwledd Briodas

ROCK MY WEDDING

‘Mae Parc Iscoed yn cynnig cymaint o hyfrydwch y tu mewn ag y mae ar y tu allan.
Yn wir, dyma un o’r lleoliadau priodi gorau yn y DU.’

Bydd yma bopeth sydd ei angen ar eich gwesteion ynglŷn â sut i gyrraedd yma, pa amser i gyrraedd, yr amser gadael a manylion y brecwast.

Gall gwesteion nad sy’n aros yn Iscoed weld enwau’r gwestai lleol a argymhellir gennym, mannau gwely a brecwast a sut i gysylltu â chwmnïau tacsi.

Gwybodaeth i’ch Gwesteion