Mae cymaint gan Iscoed i’w gynnig, boed hynny’n amrywiaeth drawiadol o agweddau cyfoes neu rhai traddodiadol. Bydd dewis eang, o fannau gwefreiddiol yn y tŷ, ar gael i chi, pob un â llif o olau yn treiddio drwy’r ffenestri Sioraidd enfawr. Adnewyddwyd rhai o’r adeiladau allanol yn ddiweddar, tra bod eraill wedi’u gadael yn fwriadol yn eu stad wreiddiol. Yn rhan o’r parc mae 750 acer o dir gwledig hyfryd, coedwigoedd, nentydd a pharcdiroedd i chi eu defnyddio fel y gwelwch orau.
Plasty Sioraidd cadarn a adeiladwyd â briciau cochion yw Parc Iscoed. O’i amgylch mae parcdiroedd a gynlluniwyd yn ôl yn y ddeunawfed ganrif, gerddi hyfryd ac adeiladau fferm traddodiadol. Oddi mewn i’r plasty bydd dewis o ystafelloedd arbennig ac unigryw ar gael i chi. Mae hyd yn oed lain griced a phafiliwn yn y parc, gyda’r plasty yn gefndir gododog i’r cyfan.
Dyma fan tawel i chi gynllunio, creu cyfeillion ac ymlacio.
Rhowch Fywyd i’ch Gweledigaeth